|
Mae'r amgueddfa yn dangos agweddau ar
fywyd Howell Harris ('y Methodist
cyntaf') ac ar fywyd y gymuned, Teulu
Trefeca, a sefydlwyd yma gan Harris yn
1752.
Mae'r arddangosfa yn cynnwys ystafell
wedi ei hail-greu o gyfnod Harris,
golygfa pregethu yn yr awyr agored a
phaneli sydd yn adrodd ei hanes.
Gwelir yn eu tro, casgliad 32 o lyfrau
crefyddol, y rhan fwyaf wedi'u hargraffu
gan Wasg Trefecca yn ail hanner y
ddeunawfed ganrif, yn ogystal â
chreiriau a chelfi o gyfnod Harris,
llawer ohonynt newydd eu hadnewyddu.
Gall y Warden ddarparu rhestr o eitemau
wedi'u cynnwys yn yr amgueddfa, yn
cynnwys teitlau'r llyfrau.
Adnewyddwyd yr amgueddfa yn 2000. Mae
wedi'i lleoli tu fewn i'r prif adeilad
yng Ngholeg Trefeca, yr adeilad sydd
heddiw ar safle man genedigaeth Harris.
Mae'r amgueddfa y tu fewn i ganolfan
hyfforddi a chynadledda breswyl. Fe'ch
cynghorir, felly, i ffonio ymlaen llaw i
drefnu'ch ymweliad. Ni allwn groesawu
criw mewn bws heb drefnu ymlaen llaw.
Mynediad am ddim i'r amgueddfa. |