www.trefeca.org.uk   

 

      Coleg Trefeca

 

 Cysylltu â Ni   

 

Cartref

Coleg Trefeca Heddiw

Hanes

Teulu Trefeca

Amgueddfa

Cyrsiau a Gwyliau

Newyddion

Lleoliad

Dolenni

 
 

Ble ydw i?  Coleg Trefeca Heddiw 3

   

Coleg Trefeca Heddiw

Coleg TrefecaMae Coleg Trefeca yn ganolfan hyfforddi lleygwyr ac yn eiddo i Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Cynhelir cyrsiau a chynadleddau yn rheolaidd yn y ganolfan ac mae'n lle delfrydol i encilio ac ymlacio.

Ein hamcanion
  • Cynnig croeso Cristnogol a chyfle i drafod, addoli, ymlacio a phrofi adnewyddiad ysbrydol
  • Hybu cyswllt agosach rhwng yr eglwysi
  • Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r ffydd Gristnogol ymysg aelodau eglwysig ac eraill

Gallwn gynnig

  • Llety preswyl i 37 o bobl mewn ystafelloedd dau wely
  • Cyfleusterau gwneud te a choffi
  • Coginio cartref da
  • Prif lolfa, ystafell chwaraeon, lolfa derbyn a nifer o lefydd addas i grwpiau bychain gyfarfod
  • Capel Bach ar gyfer addoli a gweddïo tawel
  • Llyfrgell o lyfrau, pamffledi a chyfnodolion crefyddol, fideos, sleidiau a chyfarpar clyweled
  • Offer cyfieithu ar y pryd
  • Amgueddfa, yn cynnwys dodrefn, llyfrau a lluniau o gyfnod Howell Harris

Cyfleusterau i bobl anabl:

  • Un ystafell wely (en-suite) wedi'i haddasu ar gyfer pobl mewn cadair olwyn
  • Nifer o gymhorthion yn yr hen goleg, system cylch clywed ar gyfer pobl fyddar (o drefnu ymlaen llaw)
  • DS 'Dyw hi ddim yn bosib cyrraedd yr Amgueddfa mewn cadair olwyn

Rhaglen

  • Cynigiwn raglen o enciliau, cyrsiau a diwrnodau hyfforddi. Gweler ein rhaglen am fanylion pellach
  • Ar adegau eraill mae'r ganolfan ar gael i'w defnyddio gan grwpiau undydd a phreswyl i redeg eu rhaglen eu hunain. Gofynnwch am y gost a phryd mae'r ganolfan ar gael.
     



 

 

 

 

 

English

 
 
 
 
 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 28/04/2006