www.trefeca.org.uk   

 

      Coleg Trefeca

 

 Cysylltu â Ni   

 

Cartref

Coleg Trefeca Heddiw

Hanes

Teulu Trefeca

Amgueddfa

Cyrsiau a Gwyliau

Newyddion

Lleoliad

Dolenni

 
 

Ble ydw i?  Hanes 3

   

Hanes Trefeca

Trefeca oedd cartref Howell Harris (1714 - 1773) a oedd, ynghyd â Daniel Rowland a William Williams yn un o arweinwyr y diwygiad efengylaidd a gychwynnodd yng Nghymru gyda thröedigaeth Harris a Rowland yn 1735.

Roedd Harris yn gyfoeswr i George Whitefield, John a Charles Wesley a Iarlles Huntingdon, a sefydlodd ei choleg ei hun ger Trefeca yn 1768.

Ymneilltuodd Harris i Drefeca yn 1750 ac yno, dwy flynedd yn ddiweddarach, y ffurfiodd ei 'Deulu', arbrawf rhyfeddol o fywyd cymunedol.

Heddiw mae'r hen gartref yn parhau yng nghalon y Coleg, sy'n adeilad rhestredig wedi'i leoli mewn 5 erw o dir ynghanol prydferthwch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r ymdeimlad o fod yn deulu Cristnogol yma o hyd.
 

 
 

 
   

English

 
 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 28/04/2006