www.trefeca.org.uk   

 

      Coleg Trefeca

 

 Cysylltu â Ni   

 

Cartref

Coleg Trefeca Heddiw

Hanes

Teulu Trefeca

Amgueddfa

Cyrsiau a Gwyliau

Newyddion

Lleoliad

Dolenni

 
 

Ble ydw i?  Newyddion 3

   

Newyddion y Coleg

Dathliadau 250 mlynedd Coleg Trefeca

Dros benwythnos y Pentecost, 17 - 19 Mai, buom yn dathlu 250 mlynedd ers gosod carreg sylfaen y prif adeilad a sefydlu cymuned Gristnogol 'Teulu Trefeca' gan Howell Harris.
The cast

Perfformiodd plant Blwyddyn 5 Ysgol Talgarth ac Ysgol y Bannau, Aberhonddu, sioe gerdd ddwyieithog, wedi'i hysgrifennu yn bwrpasol gan Aled Lewis Evans ac wedi'i chyfarwyddo a'i chynhyrchu gan Siân Drinan a Stevie Atkins. Llenwyd y babell yn y gerddi gan gynulleidfaoedd o ryw 230 ar nos Wener a 200 ar nos Sadwrn.

Cadwodd y glaw draw ar brynhawn Sadwrn ar gyfer y diwrnod agored, gyda chwmni dawnsio gwerin Pont-y-pwl yn dawnsio ac yn annog eraill i roi cynnig arni! Cynigiwyd teithiau ar gefn merlyn ar gyfer plant, cyfle i wneud crochenwaith a'i pheintio, cyfle i wylio arddangosfa nyddu a gwaith tapestri, i weld Amgueddfa Howell Harris ar ei newydd wedd ac i ymuno â theithiau tywys o amgylch yr adeilad.

Ar ddydd Sul cynhaliwyd oedfa dathlu oedd yn cynnwys cyflwyno eitemau symbolaidd i'w rhoi mewn capsiwl amser, a gladdwyd wrth y groes o flaen y Coleg ar ddiwedd yr oedfa.

Aelodau rhwydwaith Teulu Trefeca fu ynghlwm wrth waith paratoi a threfnu'r dathliadau hyn. Yr oedd yn gyfle i'r Teulu dathlu ei wreiddiau hanesyddol. Yr oedd hefyd yn arwydd gweladwy o buer a llawenydd cymuned Gristnogol heddiw.

Am adroddiadau pellach ynglwn â dathliadau 250 mlynedd, ymwelwch â www.madley.org/trefeca

 







 

English

 
 
 
 
 
 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 28/04/2006