|
Rhoddodd Howell Harris yr enw 'Teulu Trefeca'
i'r gymuned Gristnogol ryfeddol a sefydlodd fan
hyn yn 1752. Wedi'i ysbrydoli gan y Morafiaid,
roedd gan y Teulu batrwm dyddiol o weithio,
addoli a chyd-fwyta.
Ar ei anterth, trigai mwy na 120 o dynion,
merched a phlant yn Nhrefeca. Roeddent bron yn
hunangynhaliol, yn arfer mwy na 70 o wahanol
grefftau. Fe wnaed y clociau a'r celfi yn yr
amgueddfa
gan aelodau'r Teulu. Mae'r adeilad
rhestredig (Gradd 2*) ei hun yn dystiolaeth i'w
crefftwriaeth.
Heddiw, mae Teulu Trefeca yn rhwydwaith o
unigolion sydd am rannu yng ngwaith Coleg
Trefeca o ran cenhadu ac adnewyddu ysbrydol ac
sydd wedi ymrwymo i gefnogi'r Coleg a'i gilydd
trwy weddi.
Mae aelodau Teulu Trefeca yn defnyddio'r
defosiwn dyddiol yn eu gweddi bersonol. Maent yn
derbyn cylchlythyr dwywaith y flwyddyn ac yn
ymgasglu yn Nhrefeca ar gyfer cynhadledd
flynyddol, diwrnod cymdeithasol mis Awst ac ar
adegau gwahanol fel y gallant.
|