|
Trefeca oedd cartref Howell Harris (1714 - 1773)
a oedd, ynghyd â Daniel Rowland a
William Williams yn un o arweinwyr y
diwygiad efengylaidd a gychwynnodd yng
Nghymru gyda thröedigaeth Harris a
Rowland yn 1735.
Roedd Harris yn gyfoeswr i George Whitefield,
John a Charles Wesley a Iarlles Huntingdon, a
sefydlodd ei choleg ei hun ger Trefeca yn 1768.
Ymneilltuodd Harris i Drefeca yn 1750 ac yno,
dwy flynedd yn ddiweddarach, y ffurfiodd ei
'Deulu', arbrawf rhyfeddol o fywyd cymunedol.
Heddiw mae'r hen gartref yn parhau yng nghalon y
Coleg, sy'n adeilad rhestredig wedi'i leoli mewn
5 erw o dir ynghanol prydferthwch Parc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r ymdeimlad
o fod yn deulu Cristnogol yma o hyd.
|
|

|