www.trefeca.org.uk   

 

      Coleg Trefeca

 

 Cysylltu â Ni   

 

Cartref

Coleg Trefeca Heddiw

Hanes

Teulu Trefeca

Amgueddfa

Cyrsiau a Gwyliau

Newyddion

Lleoliad

Dolenni

 
 

Ble ydw i?  Teulu Trefeca 3

   

Teulu Trefeca

Rhoddodd Howell Harris yr enw 'Teulu Trefeca' i'r gymuned Gristnogol ryfeddol a sefydlodd fan hyn yn 1752. Wedi'i ysbrydoli gan y Morafiaid, roedd gan y Teulu batrwm dyddiol o weithio, addoli a chyd-fwyta.

Ar ei anterth, trigai mwy na 120 o dynion, merched a phlant yn Nhrefeca. Roeddent bron yn hunangynhaliol, yn arfer mwy na 70 o wahanol grefftau. Fe wnaed y clociau a'r celfi yn yr amgueddfa gan aelodau'r Teulu. Mae'r adeilad rhestredig (Gradd 2*) ei hun yn dystiolaeth i'w crefftwriaeth.Teulu tapestry

Heddiw, mae Teulu Trefeca yn rhwydwaith o unigolion sydd am rannu yng ngwaith Coleg Trefeca o ran cenhadu ac adnewyddu ysbrydol ac sydd wedi ymrwymo i gefnogi'r Coleg a'i gilydd trwy weddi.

Mae aelodau Teulu Trefeca yn defnyddio'r defosiwn dyddiol yn eu gweddi bersonol. Maent yn derbyn cylchlythyr dwywaith y flwyddyn ac yn ymgasglu yn Nhrefeca ar gyfer cynhadledd flynyddol, diwrnod cymdeithasol mis Awst ac ar adegau gwahanol fel y gallant.

 


 

English

 
 
 
 
 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 27/01/2009